RSS Amplifier

NicerNews · Feb 12, 2026

Meithrin Deialog Ryngddisgyblaethol Ddyfnach

0
Sign in to vote or save

Bob Bowie · NicerNews

Nod y prosiect Meithrin Deialog Ryngddisgyblaethol Ddyfnach yw datblygu fframwaith posibl ar gyfer dysgu proffesiynol athrawon yng Nghymru, wedi’i ganoli ar ddeialog disgyblaethol a rhyngddisgyblaethol rhwng athrawon.

Mae’r adroddiad hwn yn rhannu canfyddiadau arolwg a gynhaliwyd yn hanner cyntaf 2025.

Mae’r canfyddiadau allweddol yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar ymatebion gan 291 o athrawon mewn ysgolion uwchradd ar draws Cymru.

Mae athrawon yng Nghymru yn adrodd am sgyrsiau proffesiynol mynych gyda’u cydweithwyr addysgu. Maent yn llawer mwy tebygol o siarad am y cynnwys y maent yn ei addysgu nag y maent o siarad am ddiben yr hyn y maent yn ei addysgu.

Mae’r sgyrsiau amlaf yn digwydd rhwng athrawon yr un pwnc. Mae sgyrsiau am gynnwys a addysgir mewn Meysydd Dysgu a Phrofiad hefyd yn digwydd yn fynych, ond mae sgyrsiau am gynnwys neu ddiben gydag athrawon y tu allan i Feysydd Dysgu a Phrofiad yn llawer llai aml.

Mae sgyrsiau rhwng athrawon am y berthynas rhwng eu pynciau yn llawer llai aml na sgyrsiau am gynnwys neu ddiben.

Cytunodd y rhan fwyaf o athrawon yn yr arolwg fod amgylchedd ysgol cadarnhaol i annog deialog broffesiynol gyda dros 80% yn cytuno bod awyrgylch cyfeillgar yn eu hysgol pan oedd athrawon yn cymryd rhan mewn sgyrsiau cwricwlwm.

Mae ymdeimlad rhyngddisgyblaethol colegol i lawer o athrawon. Adroddodd dros 50% fod uwch arweinwyr yn annog sgyrsiau cwricwlwm rhwng athrawon o wahanol Feysydd Dysgu a Phrofiad a dywedodd yr un nifer fod amser wedi’i neilltuo i athrawon gefnogi ei gilydd ar yr hyn maen nhw’n ei addysgu.

O ran awdurdod, dim ond 40% o athrawon a adroddodd eu bod wedi cael awdurdod i benderfynu ar ffocws sgyrsiau cwricwlwm ac, i gefnogi hyn, adroddodd dros 50% mai uwch arweinwyr yn eu hysgol a benderfynodd ar ffocws sgyrsiau cwricwlwm.

Yn hollbwysig ar gyfer y prosiect hwn, adroddodd mwy na hanner fod sgyrsiau cwricwlwm arwynebol ar gyfer atebion hawdd yn gyffredin a dim ond ychydig dros 30% a adroddodd fod sgyrsiau cwricwlwm dyfnach a mwy heriol yn gyffredin.

Awgrymodd 80% o’r cyfranogwyr y byddai ‘rhwydweithiau pwnc-benodol i gefnogi dysgu proffesiynol’ yn eu cefnogi mewn sgyrsiau cwricwlwm dyfnach gydag athrawon pynciau eraill.

O’i gymharu â sgwrs athrawon am gynnwys, diben neu berthynas â phynciau eraill, mae siarad am gynaliadwyedd a newid hinsawdd yn llawer llai aml. Adroddodd dros hanner cyfranogwyr yr arolwg nad oeddent byth yn siarad ag athrawon y tu allan i’w pwnc am faterion cynaliadwyedd neu newid hinsawdd y maent yn eu haddysgu.

https://zenodo.org/records/18466435/files/DeeperInterdisciplinaryDialogueSurveyWelsh.pdf?download=1

Read the original on nicernews.substack.com

Comments

Nothing yet. Say the first thing.

    Sign in to join the conversation.