Arf niwclear
Y cwmwl madarch wedi ffrwydrad niwclar | |
| Enghraifft o: | dyfais ffrwydrol, nuclear technology, dosbarth o arfau yn ôl swyddogaeth |
|---|---|
| Math | Arf dinistr torfol, nuclear explosive |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/05gpf |
| Thesawrws y BNCF | 2463 |
| Quora | Nuclear-weapons |
Arf niwclear yw dyfais ffrwydrol sy'n defnyddio adwaith niwclar, un ai ymholltiad niwclar neu gyfuniad o ymholltiad niwclar ac ymasiad niwclar. Mae'r ddau fath o adwaith yn rhyddhau maint aruthrol o ynni o faint cymharol fychan o fater. Gall arf niwclear fod yn daflegryn, bom, siel neu ffrwydryn tir. Ceir tri math gwahanol o ddyfais niwclear: dyfais atomig, dyfais hydrogen a dyfais niwtron.
Dim ond dau arf niwclar sydd wedi eu defnyddio mewn rhyfel erioed, gan yr Unol Daleithiau - a hynny tua diwedd yr Ail Ryfel Byd. Ar 6 Awst 1945, gollyngwyd bom atomig ar ddinas Hiroshima yn Japan, a thridiau'n ddiweddarch, gollyngwyd un arall ar ddinas Nagasaki. Rhwng y ddau, lladdwyd tua 120,000 yn y tymor byr, gyda mwy yn marw yn y tymor hir o effeithiau ymbelydredd, cansar gan fwyaf.
Ers hynny, mae dros dwy fil o arfau niwclar wedi eu ffrwydro mewn profion. Y gwledydd y gwyddir i sicrwydd fod ganddynt arfau niwclar yw'r Unol Daleithiau, Rwsia, Tsieina, y Deyrnas Unedig, Ffrainc, India, Pacistan a Gogledd Corea. Credir fod gan Israel arfau niwclar, ond nid yw llywodraeth Israel wedi cadarnhau hyn. Ar hyn o bryd,cyhuddir Iran gan yr Unol Daleithiau o fod yn y broses o ddatblygu arfau niwclar, ond gwedir hyn gan lywodraeth Iran.
Mae arfau niwclear diweddar yn cynnwys y daflegryn Cruise. Arweiniodd cynlluniau UDA i osod Cruise ar safleoedd ym Mhrydain a'r Almaen at argyfwng gwleidyddol ar ddechrau'r 1980au. Cynhalid llu o brotestiadau mawr dros heddwch, er enghraifft yn Greenham Common yn ne Lloegr a ger Mur Berlin yn yr Almaen.
Arfau niwclear yng Nghymru
[golygu | golygu cod]Yn 1942, addaswyd un o'r adeiladau Pyro yng Ngwaith y Dyffryn ym mhentref Rhydymwyn, Sir y Fflint (sef adeilad P6) ar gyfer profi cyfarpar gwahanu isotopau wraniwm yng nghyfnod cynnar prosiect Tube Alloys cyn i hwn gael ei symud i America (gan ddatblygu'n ddiweddarach i fod yn rhan o Brosiect Manhattan). Archebwyd pedwar prototeip o blanhigion trylediad nwyol gan Metropolitan-Vickers, yn Trafford Park, Manceinion, am gost o £150,000 a'u gosod yn adeilad P6 yn y Dyffryn. Parhaodd yr arbrofion tan 1945 pan symudwyd yr offer i Didcot a Harwell. Arweiniodd canlyniadau'r arbrofion at adeiladu'r ffatri trylediad nwyol yn Capenhurst, Swydd Gaer. Mae Adeilad P6 bellach yn adeilad rhestredig Gradd II ac mae o bwys rhyngwladol; am gyfnod byr iawn roedd ar flaen y gad ym maes ffiseg niwclear.