Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sydd yn "Y Coridor Ansicrwydd" ac yn barod i drafod digwyddiadau diweddar y byd pêl-droed yn ogystal â phob math o bethau eraill yng nghwmni Dylan Griffiths.
Beth oeddech chi'n neud yn 15 mlwydd oed? Ddim yn chwarae i Gaerdydd, mae hynny'n sicr. Ond dyna mae Noah Anyadike wedi ei gyflawni ar ôl cael ei ddewis i gychwyn mewn gêm yng Nghwpan y Gynghrair i'r Adar Gleision. Yn sicr, mae gan y rheolwr Brian Barry-Murphy meddwl mawr o'r Cymro ifanc. Ai dyma'r seren nesaf i gamu allan o'r academi? Ychydig wythnosau'n ôl, roedd Bobby Kamwa yn arwr i gefnogwyr…
Pwynt yr un i Gaerdydd a Wrecsam; buddugoliaeth yr un i Abertawe a Chasnewydd - roedd yna rywbeth i bawb ar benwythnos agoriadol y tymor i'r clybiau EFL. Ai dyma'r tymor fydd Rubin Colwill yn torri mewn i gynlluniau Craig Bellamy? Lle mae Wrecsam angen cryfhau? Fydd Zan Viponik dal yn Abertawe wythnos nesaf? Ydi Hayden Mullins wedi darganfod y gyfrinach yng Nghasnewydd? Ac mae Owain a Malcolm yn…
Ar drothwy tymor newydd, mae'n amser proffwydo unwaith eto wrth i Abertawe, Caerdydd a Wrecsam gystadlu yn erbyn ei gilydd yn ail haen Lloegr am y tro cyntaf ers tymor 1981-82. Pwy fydd yn gorffen uchaf? Fydd unrhyw un yn cael dyrchafiad i'r Uwch Gynghrair? Mae gan Brennan Johnson gartref newydd arall wrth iddo adael Crystal Palace am Everton. Fydd David Moyes yn gallu datgloi'r gyfrinach i gael y…
Ar drothwy tymor newydd, mae'n teimlo fel bod y byd pêl-droed wedi ei throi ar ei phen. Pwy feddylia fod llywydd Fifa, Gianni Infantino, yn cynllunio i werthu Cwpan Y Byd? Wel, mae’r ymateb wedi bod yn chwyrn, gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ar flaen y gad. Testun balchder i’r criw Coridor yn sicr. Roedd ‘na gychwyn addawol i’r Cymru Premier, sydd ar ei newydd wedd, wrth i’r cefnogwyr heidio i’r…
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n edrych yn ôl ar rownd derfynol y Cwpan y byd, y sioe hanner amser ag yn dewis chwaraewr y twrnament. Mae'r tri hefyd yn ceisio ffeindio ateb i broblemau timau domestig Cymru yn Ewrop.
Heb os, mae 'na ddathlu, ac elfen o ryddhad ymysg y criw, bod Lloegr wedi methu â chyrraedd rownd derfynol Cwpan y Byd. Yr Ariannin aeth a hi yn Atlanta, wrth i'r dewin bach Lionel Messi ddangos ei allu arbennig unwaith eto. Ond mi oedd y Saeson yn agos iawn at ennill - tybed os mai penderfyniadau tactegol y rheolwr Thomas Tuchel oedd ar fai? A sôn am agos, mae'r ras i ennill gem y broffwydo Cwpan…
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n pori dros wythnos o ddigwyddiadau rhyfeddol yng Nghwpan y Byd. Mae'r tri hefyd yn crynhoi perfformiadau Cymru ym Mhencampwriaeth dan19 Ewrop ac yn ystyried pa fath o reolwr fyddai'n fodlon gweithio o dan Huw Jenkins yng Nghasnewydd.
Fydd Craig Bellamy ddim yn gadael Cymru am Burnley wedi'r cyfan... ddim am y tro beth bynnag. Ar ôl edrych mai mater o amser oedd hi cyn i reolwr Cymri adael am Turf Moor, daeth y trafodaethau i ben yn sydyn, gan adael sawl cwestiwn i'w hateb. Pa effaith fydd yr helynt yn ei gael ar ei berthynas gyda chefnogwyr a chwaraewyr Cymru? Ydi'r Gymdeithas Bêl-droed yn sicr mai Bellamy ydi'r rheolwr cywir…
Sgwrs gyda rheolwr Caernarfon Richard "Fish" Davies wrth i'r Oval baratoi i gynnal gemau Ewropeaidd am y tro cyntaf erioed yn dilyn gwaith adnewyddu gwerth £1.3m. Ac ydi, ac y tro cyntaf yn hanes y stadiwm enwog, mae'r cae yn wastad! Ond cyn hynny, mae'r criw yn trafod stori fawr yr wythnos wrth i Craig Bellamy gynnal trafodaethau gyda Burnley er mwyn ymuno fel rheolwr. Ar ben hynny, mae Aaron…
Er absenoldeb Cymru yng Ngogledd America, mae 'na gynnwrf mawr ymysg y criw wedi'r wythnos gyntaf o gemau. O hat-tric Messi i sgiliau Olise, mae digwyddiadau ar y cae wedi gorchfygu'r pesimistiaeth a'r amheuon yn arwain at y gystadleuaeth. Dim ond dwy gêm tydi Malcolm heb wylio... ydi'r diffyg cwsg yn dechrau dangos? Ond cyn hynny, rhown deyrnged i gyn chwarae Cymru a chyn reolwr Abertawe Kenny…
Ma Dylan, Owain a Malcolm yn edrych nol dros gemau diweddar timau dynion a merched Cymru, ac ar drothwy Cwpan y Byd 2026, ma'r tri yn dewis tim ma nhw am ei gefnogi.
Ar ôl sgorio ei gôl ryngwladol gyntaf yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Ghana, ydi'r amser wedi dod i Lewis Koumas hawlio ei le fel prif ymosodwr Cymru? Does gan Craig Bellamy ddim amheuaeth mai dyfodol fel rhif 9 sydd ganddo, ond ydi'r criw yn rhannu'r un farn am chwaraewr sydd fel arfer ar yr asgell? A beth am y perfformiad yn y gêm gyfartal nos Fawrth? Mae 'na glod mawr haeddiannol i Malcolm ar ôl…